
Cefnogi oedolion ag anableddau dysgu… mwy
Credwn mewn byw yn ogystal â gofalu
Elusen sy’n canolbwyntio ar helpu pobl i fyw bywyd egnïol, annibynnol a chyflawn yw Cartref Ni. Fel yr awgryma’r enw, yr hyn a wna Cartref Ni yw: rhoi i bobl y gofal a’r gefnogaeth y mae arnynt ei hangen i fwynhau eu bywyd gartref.
Rydym yn darparu cefnogaeth i oedolion yn bennaf sydd ag anabledd dysgu. Bydd ein tîm o weithwyr cefnogi sydd wedi’u dewis yn ofalus a’u hyfforddi i safon uchel yn rhoi eich anghenion chi, neu’ch anwyliaid, yn gyntaf.